Ciw-restr

Ar y Groesffordd

Llinellau gan Doctor Huws (Cyfanswm: 53)

 
(3, 0) 681 Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi—
 
(3, 0) 684 Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr.
 
(3, 0) 687 Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan.
(3, 0) 688 Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris?
 
(3, 0) 934 Dyma Mr. Blackwell y Plas.
(3, 0) 935 Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis.
 
(4, 0) 979 Gweithio'n galed, Harri?
 
(4, 0) 982 Wedi mynd i'w dê mae o rwan?
 
(4, 0) 984 Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar?
(4, 0) 985 Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn.
 
(4, 0) 987 Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar?
 
(4, 0) 990 Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma.
(4, 0) 991 Dyna beth ydi practical Christianity wyddost.
 
(4, 0) 993 Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun.
 
(4, 0) 996 Digon gwael ydi o.
 
(4, 0) 998 Mae'n anodd deyd hyd yn hyn.
(4, 0) 999 Y perig ydi i'r dolur yma gyrraedd ei galon, ac wedyn mi fydd ar ben ar yr hen greadur.
 
(4, 0) 1005 Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o.
 
(4, 0) 1007 Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb.
(4, 0) 1008 Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê?
 
(4, 0) 1011 Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na?
 
(4, 0) 1014 Aiff o?
 
(4, 0) 1016 Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol.
 
(4, 0) 1018 Ie, wrth gwrs.
 
(4, 0) 1021 Lol i gyd!
(4, 0) 1022 I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael.
(4, 0) 1023 Ond wedi chi ddeall fod peth o waed Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf.
(4, 0) 1024 Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw,
 
(4, 0) 1030 Run ateb sy gen i: wn i ddim.
 
(4, 0) 1032 Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma.
 
(4, 0) 1034 I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared.
 
(4, 0) 1037 Nage'n wir.
(4, 0) 1038 Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael.
(4, 0) 1039 Mae hi'n leicio Jared erioed.
 
(4, 0) 1043 Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio?
 
(4, 0) 1045 Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn |all right| â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau.
(4, 0) 1046 Ond rwan, does neb ond fi a'r Sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun.
(4, 0) 1047 Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê.
 
(4, 0) 1049 Rwan mi awn i'r tŷ ein tri.
 
(4, 0) 1063 Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf.
 
(4, 0) 1068 Canolig iawn.
(4, 0) 1069 Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella, os oes gwella i fod.
 
(4, 0) 1071 Ie.
(4, 0) 1072 Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y Scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn y fan y basa fo'n talu am nyrs o'i boced i hun.
(4, 0) 1073 Mi yrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest.
 
(4, 0) 1076 Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo.
 
(4, 0) 1078 Peth difrifol ydi bod yn anghredadun, Mr. Harris.
(4, 0) 1079 Gyda llaw, mae'r nyrs eisia coed tân, ac mi ddaw yma'n y funud i gael rhai.
(4, 0) 1080 Cloben o Saesnes hyll ofnadwy ydi hi; doedd dim Cymraes i'w chael, mae'n debig.
(4, 0) 1081 Wel, pnawn da.
 
(4, 0) 1203 Gadewch lonydd i'r dyn—does dim y mater ar Jared, mae o cyn iachad ag afal Awst.
 
(4, 0) 1229 Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau.
(4, 0) 1230 Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd.